SL(6)437 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (“y Prif Reoliadau”). Trafododd y Pwyllgor y Prif Reoliadau yn ei gyfarfod ar 25 Medi 2023. Gwnaed y Rheoliadau i gywiro gwallau o natur dechnegol, neu sy’n gysylltiedig â chonfensiwn drafftio, a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ar y Prif Reoliadau.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd yr wyth pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Mae rheoliad 4(a) yn mewnosod diffiniad o “person awdurdodedig” yn y Prif Reoliadau. Mae testun Saesneg y diffiniad yn croesgyfeirio at bobl yn rhinwedd rheoliad 62(a) i (d) o’r Rheoliadau Fferyllol, ond mae’r testun Cymraeg yn croesgyfeirio at bobl yn rhinwedd rheoliad 62(a) i (c) o’r Rheoliadau Fferyllol. Nid yw’n glir pa fersiwn sy’n gywir, sy’n golygu bod y diffiniad o “person awdurdodedig” yn aneglur.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 4(a) yn mewnosod diffiniad o “Cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” yn y Prif Reoliadau. Mae’r diffiniad hwn yn cyfeirio at “erthygl 5(1) o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (cofrestru)”.  Dylai’r gair rhwng cromfachau ddarllen “sefydlu a chynnal cofrestr” gan mai dyma deitl erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001. “Cofrestru” yw teitl erthygl 9.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 4(m)(i) yn diwygio’r diffiniad o “anghymhwysiad cenedlaethol” yn y Prif Reoliadau drwy roi’r gair “adran” yn lle “adrannau”. Nid oes angen hyn gan fod geiriad y diffiniad yn dal i gyfeirio at adrannau lluosog hyd yn oed fel y’u diwygiwyd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 16(b)(viii) yn datgan y dylid mewnosod y cyfeiriad “(p.14)” ar ôl “Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998” yn Atodlen 1 i’r Prif Reoliadau. Mae Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 yn ymddangos ddwywaith yn Atodlen 1, felly dylai rheoliad 16(b)(viii) bennu a ddylid mewnosod y cyfeiriad yn yr achlysur cyntaf neu ym mhob achlysur y mae’n digwydd.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 16(b)(xii) yn mewnosod p. 22 fel y cyfeiriad ar gyfer Deddf Lluoedd Wrth Gefn (Diogelu Cyflogaeth) 1985. Y cyfeiriad cywir yw p. 17. Yn yr un modd, mae rheoliad 16(b)(xv) yn mewnosod p. 28 fel y cyfeiriad ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Y cyfeiriad cywir yw p. 14.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 18(r) yn rhoi’r gair “is-baragraff” yn lle “baragraff” ym mharagraff 66(1) o Atodlen 3 i’r Prif Reoliadau. Fodd bynnag, mae’r gair “paragraph” yn ymddangos dair gwaith ym mharagraff 66(1) yn y fersiwn Saesneg ac nid yw’r diwygiad yn pennu ei fod ond yn gymwys i’r lle cyntaf y mae “paragraph” yn digwydd. Er bod y ddau ddefnydd arall o’r gair mewn is-baragraffau, maent yn dal i fod yn rhan o baragraff 66(1) ac felly dylid bod wedi’i gwneud yn glir bod y diwygiad ond yn gymwys i’r lle cyntaf y mae “paragraph” yn ymddangos. Byddai hyn yn gyson â'r dull a ddefnyddiwyd yn rheoliad 18(ff).

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Tynnodd pwynt adrodd 40 yn ein hadroddiad ar y Prif Reoliadau sylw at y ffaith bod Panel Addasrwydd i Ymarfer bellach yn cael ei alw’n Dribiwnlys Ymarferwyr Meddygol. Mae rheoliad 18(nn)(ii)(cc) yn diwygio paragraff 117(6)(a) o Atodlen 3 i’r Prif Reoliadau i adlewyrchu’r newid hwn. Fodd bynnag, mae’r term “Addasrwydd i Ymarfer” hefyd yn ymddangos ym mharagraff 117(6)(b) o’r Prif Reoliadau ac nid yw’r Rheoliadau yn diwygio’r geiriad hwn.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 18(oo)(iii)(aa) yn mewnosod geiriad ym mharagraff 119(3)(v) o Atodlen 3 i’r Prif Reoliadau. Fel y’i diwygir, byddai geiriad paragraff 119(3)(v) yn darllen “mewn achos pan fo’r contract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth neu gyda chwmni a phan fo un neu ragor o’r unigolion hynny wedi gwrthod cydymffurfio â chais gan y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei archwilio’n feddygol, bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y contractwr yn cymryd camau digonol i ddelio â’r mater” (dangosir y geiriau ychwanegol mewn testun italig). Nid yw’n glir a fwriedir i’r geiriad ychwanegol ymwneud â’r bartneriaeth, y cwmni neu’r ddau. Os mai dim ond â’r bartneriaeth y bwriedir iddo ymwneud yna dylai’r geiriad newydd fod wedi’i ychwanegu ar ôl y gair “partneriaeth” yn hytrach na “chwmni”. Os bwriedir iddo ymwneud â’r cwmni neu’r bartneriaeth a’r cwmni, yna byddai angen egluro pwy yn y cwmni fyddai’n gyfystyr â’r “unigolion”.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

9.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Yn ei hymateb i’n hadroddiad ar y Prif Reoliadau, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gwneud diwygiadau i gywiro’r materion a godwyd ym mhwyntiau 8 a 54 yn ein hadroddiad. Roedd pwynt 8 yn ymwneud â chyfeiriad at ddarpariaeth a ddiddymwyd yn y diffiniad o “optometrydd-ragnodydd annibynnol” yn y Prif Reoliadau a nododd pwynt 54 gyfeiriad anghywir at Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn y Nodyn Esboniadol i’r Prif Reoliadau. Nid yw’r Rheoliadau yn gwneud y diwygiadau hyn.

10. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Pwyllgor yn nodi na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

Ni chynhadliwyd unrhyw ymgynghoriad ar y Rheoliadau diwygio gan nad yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud yn newid y polisi nac yn cael unrhyw effaith arno nac ar sut y caiff ei gymhwyso.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bob un o’r pwyntiau adrodd ac eithrio’r un olaf.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Ionawr 2024